Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Y cefndir

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, mae tîm Allgymorth y Cynulliad wedi bod yn cynnal cyfarfodydd grwpiau ffocws â grwpiau amrywiol ledled Cymru. Cafwyd cyfraniadau gan gymysgedd o staff rheng flaen gan gynnwys gweithwyr cymorth, rheolwyr rhaglen a rheolwyr cynllun, a defnyddwyr gwasanaethau, fel pobl ifanc, teuluoedd sydd ag incwm isel a rhieni sengl, yr oedd rhai ohonynt yn gyflogedig, rhai'n gweithio'n rhan-amser neu ar gontractau dim oriau, ac eraill yn ddi-waith. Daeth cyfranogwyr o bob un o'r pum rhanbarth etholiadol yng Nghymru.

Cynhaliodd y tîm 8 sesiwn, gan ymgysylltu â grwpiau o Abertawe, Caernarfon, Blaenau Ffestiniog, Conwy, Llanbedr Pont Steffan, Tonpentre, Caerdydd, Merthyr Tudful, Glynebwy, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.  Mae sylwadau’r 76 o bobl a gyfrannodd wedi'u crynhoi fesul thema allweddol.

 

Crynodeb o themâu a chyfraniadau allweddol

 

01. Trafnidiaeth gyhoeddus

“Transport is a big issue above all where you are getting minimum pay” (Person ifanc, Abertawe)

Thema gyffredin ym mhob sesiwn ac ym mhob rhan o'r wlad oedd ei bod yn anodd cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus (yn enwedig gwasanaethau bysiau), a sut mae hyn yn rhwystr mawr i ddod o hyd i swydd a'i chadw, ac er mwyn gallu cael mynediad at hyfforddiant a chymorth. Roedd hyn yn fater a godwyd gan y rhai mewn ardaloedd gwledig a threfol. Cododd pobl hefyd y pryderon a ganlyn:

-      Mae costau cynnal car yn golygu bod llawer o bobl sydd ar incwm isel yn dibynnu'n helaeth ar wasanaethau bysiau, yn enwedig wrth gymudo;

-      Anfodlonrwydd ar y diffyg gwybodaeth sylfaenol sydd ar gael, gan gynnwys amserlenni, lleoliadau arosfannau bysiau, prisiau tocynnau, yn ogystal â barn gyffredin ar draws yr holl grwpiau bod gwasanaethau bysiau'n annibynadwy;

-      Soniodd llawer o bobl am batrymau sifftiau gwaith ar adegau pan nad yw gwasanaethau bysiau mor fynych, felly mae'n anodd cymudo;

-      Soniodd nifer o gyfranogwyr fod angen defnyddio nifer o wasanaethau er mwyn cyrraedd pen y daith, gan eu gwneud yn hwyr yn aml.

Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gyfrannodd yn credu y byddai tocynnau bws rhatach, a gwasanaethau bysiau mwy mynych a dibynadwy yn eu helpu'n sylweddol i gael gwaith a'i gadw.

 

02. Y system fudd-daliadau

“Some have to make a decision between work or benefits because you are not going to get more money working.” (Defnyddiwr gwasanaeth mewn cyflogaeth ran-amser, Dwyrain Caerdydd)

Ymatebodd cyfranogwyr yn angerddol iawn i drafodaethau ynghylch system fudd-daliadau, gyda'r rhan fwyaf o'r farn nad oedd yn effeithiol wrth annog a chefnogi pobl i gael gwaith. Roedd llawer yn meddwl y byddai bod mewn cyflogaeth yn gwaethygu eu hamgylchiadau ariannol oherwydd costau teithio i'r gwaith ac oddi yno, a'r toriadau i fudd-daliadau sy'n deillio o gael gwaith. Soniodd rhieni sengl am enghreifftiau lle nad oedd eu plant bellach yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim pan oeddent mewn cyflogaeth. Mynegodd llawer o grwpiau ddicter tuag at y system fudd-daliadau, a diffyg tegwch canfyddedig nad yw, yn eu barn hwy, yn gwobrwyo pobl sy'n barod i weithio.

“I got a pay rise, then they cut my tax credits – I was worse off.” (Mam ifanc mewn cyflogaeth, Abertawe)

Roedd tai cymdeithasol yn codi dro ar ôl tro fel mater i'r rhai yr ymgysylltwyd â hwy. Roedd diffyg tai cymdeithasol, dewisiadau eraill drud ac o ansawdd amrywiol o ran rhent preifat, a landlordiaid preifat â pholisi 'dim DSS' yn codi fel problemau ar draws y wlad.

Beirniadwyd y Cymhorthdal ​​Ystafell Sbâr, gyda llawer o gyfranogwyr yn cyfeirio at y baich ychwanegol y mae'n ei roi ar deuluoedd sydd ag incwm isel, a'r diffyg llety addas arall.

Roedd pryder mawr ynghylch y System Credyd Cynhwysol a theimlad bod pethau'n mynd i waethygu. Roedd rhai pobl ifanc yr oeddem yn ymgysylltu â hwy ar y Credyd Cynhwysol ac yn sôn bod meddyginiaethau'n cael eu rhagnodi iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r gorbryder y mae'n ei achosi. 

Roedd nifer o'r rhai y siaradwyd â hwy'n teimlo bod angen trefnu bod mwy o wybodaeth ar gael yn hwylus am sut mae'r System Credyd Cynhwysol yn gweithio, beth mae gan bobl hawl iddo a sut i gael gafael ar gymorth.

Dywedodd llawer o bobl ifanc nad oeddent yn anymwybodol o'u hawliau na'r hyn roedd ganddynt hawl iddo. Mynegwyd anfodlonrwydd hefyd ar y ffordd roedd y taliadau'n cael eu gweinyddu.

“You have to wait 6 weeks for your first benefit payment, so you’re immediately in the red.” (Person ifanc, di-waith, Glynebwy)

 

03. Cyfleoedd gwaith

Soniodd pob grŵp am y diffyg cyfleoedd gwaith yn eu hardal. Lle mae gwaith ar gael, roedd llawer ohono'n dâl isel mewn sectorau fel gofal cymdeithasol, manwerthu, trin gwallt, lletygarwch a hamdden, a gwaith ffatri. Soniodd llawer o bobl am beidio â gallu cadw swydd yn y sector gofal oherwydd y disgwyliad mai'r cyflogai sy'n talu treuliau, sy'n golygu eu bod ar eu colled. Mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yng ngogledd-orllewin Cymru, mae llawer o'r gwaith yn dymhorol.

Roedd cais cyffredinol i ddenu mwy o gyflogwyr i Gymru er mwyn cynyddu nifer y swyddi sydd ar gael, gyda rhai grwpiau'n nodi bod cyflogwyr mawr yn torri'n ôl ar staff, a bod rhai cyflogwyr llai'n mynd i'r wal, gan olygu bod llai o waith ar gael. Soniodd pobl mewn cymunedau gwledig am y ffordd y mae'r diffyg swyddi'n effeithio'n sylweddol ar eu hardaloedd.

Siaradodd pobl ifanc am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael gafael ar waith, yn enwedig gan ei fod yn gysylltiedig â'r rhai sydd â llai o gymwysterau a phrofiad.

“If you’re a young person coming out of school with no experience, it’s really difficult to get a job” (Person ifanc, di-waith, Caerdydd)

Roedd rhai staff yn y trydydd sector yn teimlo y dylai Twf Swyddi Cymru fod yn gyfrwng i roi 'troed ar yr ysgol' i bobl ifanc sydd â llai o sgiliau a phrofiad. Fodd bynnag, roedd y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o recriwtio trwy'r rhaglen yn siarad am gael rhestr fer o ymgeiswyr yr oedd gan bob un radd Prifysgol. Gofynnwyd a oedd y bobl ifanc a fyddai'n elwa fwyaf ar y rhaglen yn cael eu hidlo o'r broses. Siaradodd un person ifanc hefyd am fod mewn lleoliad Twf Swyddi Cymru am 14 mis, a bod y cyflogwr wedi gwrthod hyfforddiant iddo.

Siaradodd rhieni sengl am yr heriau penodol roeddent yn eu hwynebu wrth gael gafael ar waith, a'r diffyg cyfleoedd gwaith addas â'r hyblygrwydd angenrheidiol i deuluoedd.

“Not really an issue to find a job, but it’s difficult to find an accessible, flexible job” (Mam ifanc mewn cyflogaeth ran-amser, Dwyrain Caerdydd)

 

04. Cyngor a chymorth

Thema reolaidd a godwyd yn ystod y trafodaethau hyn oedd y diffyg cymorth canfyddedig a geir gan y Ganolfan Waith. Siaradodd y cyfranogwyr am eu hanfodlonrwydd ar anallu'r Ganolfan Waith i gyfeirio at hyfforddiant priodol, cyfleoedd cyflogaeth yn effeithiol, ac i gyfleu sut y byddai ymgymryd â rhai cyfleoedd gwaith (yn enwedig gwaith tymor byr neu ran-amser) yn effeithio ar fudd-daliadau unigolyn. Roedd rhai'n cydymdeimlo â'r pwysau a oedd ar Hyfforddwyr Gwaith y Ganolfan Waith, ac awgrymodd rhai swyddogion cymorth y byddai perthynas waith agosach rhwng grwpiau'r trydydd sector a'r Ganolfan Waith o fudd.

“I think there needs to be more of a structured way of working between the job centres and local organisations in the 3rd sector, providing CV, job search, upskilling support.” (Gweithiwr cymorth, Abertawe)

Roedd pobl ifanc yn teimlo nad yw'r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol yn effeithiol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol iddynt er mwyn dod o hyd i waith, rheoli arian, a byw bywyd annibynnol, iach.

“You’re not taught how to survive when you leave school” (Person ifanc, di-waith, Rhondda Cynon Taf)

Siaradodd pobl ifanc am yr angen am gynlluniau sy'n rhoi profiad gwaith a hyfforddiant sgiliau i bobl ifanc.  Er i rai staff y trydydd sector fynegi eu pryder ynghylch y newidiadau i'r ffordd nad yw'r arian sydd ar gael drwy'r grant refeniw Cefnogi Pobl bellach yn cael ei glustnodi, ac efallai na chaiff ei wario ar gymorth hanfodol i bobl ifanc sy'n agored i niwed, gan gynnwys llety, sgiliau byw'n annibynnol, byw'n iach a chymorth emosiynol.

Soniodd rhai am anawsterau wrth gael gafael ar hyfforddiant y tu allan i gyflogaeth, oherwydd diffyg argaeledd y tu allan i gyflogaeth, pellter teithio, a'r amser, yr egni a'r capasiti meddyliol sy'n ofynnol.

“How are you going to think about training and qualifications when you’re spending all of your energy thinking about feeding your family…you’re literally just surviving” (Mam ifanc, ddi-waith, Dwyrain Caerdydd)

 

05. Contractau dim oriau 

“They need to be stopped. Awful things – cause people stress and anxiety.” (Defnyddiwr gwasanaeth, Abertawe)

Roedd y cyfranogwyr yn gryf iawn yn erbyn contractau dim oriau, a chyfeiriodd llawer at y ffaith bod nifer y swyddi contract dim oriau wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n arbennig o gyffredinol yn y sector gofal.

“They call you at late notice, 20minutes before a shift starts. You don’t want to turn it down or they won’t call you again” (Person ifanc, di-waith, Torfaen)

Roedd llawer o bobl yn teimlo nad yw cael eich cyflogi ar gontractau dim oriau'n eich galluogi i gynllunio'n briodol. I deuluoedd ac unigolion sydd ag incwm isel, mae'n ei gwneud yn amhosibl rheoli sefyllfa ariannol sydd eisoes yn anodd iawn.

“I went a month without work. If I didn’t live with my parents I wouldn’t have been able to afford to live.” (Person ifanc, di-waith, Torfaen)

 

06. Cyflog byw

Roedd y rhan fwyaf o bobl roeddem yn ymgysylltu â hwy yn gefnogol i gyflogwyr sy'n cynnig y Cyflog Byw Cenedlaethol yn lle'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac roeddent o'r farn nad oedd cyflogau wedi codi ar yr un cyflymder â chostau byw, felly roedd yn iawn gwneud hynny.

Siaradodd llawer o'r rhai roeddem yn ymgysylltu â hwy am faint o straen oedd arnynt i geisio cael deupen llinyn ynghyd. Byddai cael y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cael effaith fuddiol ar eu llesiant emosiynol, yn gwella eu symudedd ac, o ganlyniad, byddent yn gallu cael gafael ar gyfleoedd hyfforddiant, a chynyddu'r tebygolrwydd o gael gwaith â thâl gwell.

‘You don’t earn enough to live, you scrape by.’ (Gweithiwr cymorth, Llanbedr Pont Steffan)

Roedd rhai'n holi pam y byddai busnesau'n talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol, gan awgrymu bod gan gyflogwyr nifer fawr o bobl i ddewis ohonynt i lenwi swyddi gwag â thâl isel, felly nid oes rheswm iddynt wneud hynny.  Cododd rhai pobl bryderon am yr effaith y gallai ei chael ar fusnesau llai, ond roedd y rhan fwyaf yn teimlo y dylai cyflogwyr mwy, yn enwedig, dalu'r Cyflog Byw Cenedlaethol i'w cyflogeion.

 

07. Grwpiau mwy agored i niwed

Roedd rhai o'r bobl roeddem yn siarad â hwy'n credu bod stigma'n gysylltiedig â lleiafrifoedd ethnig du, rhieni sengl, a phobl ag anabledd, gan ei gwneud yn anoddach iddynt gael gafael ar gyflogaeth.

Dywedodd rhai o staff y trydydd sector y buom yn siarad â hwy fod y rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig yn ei chael yn anoddach cael gafael ar waith. Roeddent yn teimlo bod canfyddiad ffug bod ardaloedd gwledig yn gefnog, ac mae defnyddwyr gwasanaethau'n mynd yn ynysig ac yn dioddef o ran eu llesiant emosiynol o ganlyniad i hynny.

Isolation and depression is one of the biggest things the families we work with suffer from.” (Rheolwr Cynllun, Llanbedr Pont Steffan)

Cyfeiriwyd hefyd at bobl sydd â sgiliau iaith Saesneg cyfyngedig, a phobl ifanc, fel grwpiau sy'n ei chael yn arbennig o heriol dod o hyd i waith.

 

Atodiad

Yn ystod y prosiect hwn, bu'r tîm Allgymorth yn gweithio gyda'r grwpiau a restrir isod i gasglu barn staff a defnyddwyr gwasanaethau. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r broses hon.

Llamau

Homestart Caerdydd

Homestart Aberaeron

Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig

GISDA

PATCH

Gingerbread

 

 

Trefn

Gofynnwyd y cwestiynau a ganlyn i’r cyfranogwyr fel rhan o'r sesiynau grŵp ffocws:

-      Pa rwystrau sydd o ran cael gafael ar waith yn eich cymuned leol?

-      I'r rhai sydd â gwaith yn eich cymuned leol, a ydynt yn wynebu rhwystrau penodol?

-      Pa ffactorau sy'n cyfrannu i dlodi pobl sydd â gwaith?

-      Pa dri pheth fyddai'n helpu i wella ansawdd gwaith yn eich swydd/eich cymuned?

-      Pa effaith fyddai cyflogwyr yn talu'r cyflog byw yn ei chael ar bobl sydd â gwaith cyflog isel yn eich cymuned?

-      A fu newid yn nifer y cyfleoedd gwaith ansicr fel contractau dim oriau yn eich cymuned leol, a beth ellid ei wneud ynglŷn â hyn?

-      Pa grwpiau o bobl sy'n fwy tebygol o fod â gwaith cyflog isel neu mewn tlodi er gwaethaf gweithio, a beth y dylid ei wneud i fynd i'r afael â hyn?

-      Pa mor dda y mae budd-daliadau lles yn gweithio i gefnogi pobl sydd ag incwm isel, p'un a ydynt â gwaith neu'n ddi-waith?